Cwestiynau - Strategaeth

a)    Beth yw eich barn ar effeithiolrwydd y trefniadau presennol ar gyfer gwella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru?

b)   A ydych chi'n credu y dylai Cymru gael deddfwriaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth awtistiaeth genedlaethol i blant ac oedolion a rhoi canllawiau i awdurdodau lleol a chyrff y GIG ar weithredu'r strategaeth hon?

c)    I ba raddau o fanylder yn eich barn chi y dylid diffinio cynnwys strategaeth awtistiaeth genedlaethol mewn deddfwriaeth?

d)   Faint o waith ymgynghori (os o gwbl) yn eich barn chi y dylai fod yn ofynnol mewn deddfwriaeth i Lywodraeth Cymru ei wneud wrth ddatblygu, adolygu a diweddaru strategaeth awtistiaeth genedlaethol?

e)    A ydych yn credu y dylai deddfwriaeth ddiffinio pa mor aml y dylid adolygu a diweddaru strategaeth awtistiaeth genedlaethol? Os felly, pa mor aml y dylid ei hadolygu a'i diweddaru?

f)     A oes gennych unrhyw farn ar sut y dylai Llywodraeth Cymru fonitro pa gynnydd sy'n cael ei wneud a sut y dylai gwasanaethau cyhoeddus fod yn atebol am y camau y maent yn eu cymryd i gefnogi pobl awtistig a'u teuluoedd?

Credwn ein bod wedi rhoi trefniadau effeithlon ar waith yn Sir Fynwy ar gyfer gwella gwasanaethau awtistiaeth drwy ein Grŵp Rhanddeiliaid aml-asiantaeth, grwpiau cefnogi rhieni/gofalwyr, ein cenhadaeth ymwybyddiaeth a llawer mwy. Fodd bynnag, derbyniwn fod llai o gysondeb ledled Cymru.

Rydym bob amser wedi creu cefnogaeth y Tîm Datblygu Cenedlaethol a theimlwn ei fod wedi hybu, ac y bydd yn parhau i wneud hynny, wrth wella gwasanaethau ledled Cymru, drwy'r rhwydweithiau dysgu a gwella ASD (LIN) a grwpiau rhanbarthol, y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r wefan.

Oherwydd hyn, teimlwn yn gadarnhaol am y seilwaith cyfredol a gaiff ei lywio gan y Cynllun Gweithredu diwygiedig wrth sicrhau gwelliant. Fodd bynnag, pan ymgynghorwyd â hwy, mae rhieni a gofalwyr Sir Fynwy wedi gweld gwerth deddfwriaeth Cymru-gyfan wrth barhau i hybu gwelliant a chysondeb mewn gwasanaethau awtistiaeth a rhoi blaenoriaeth a phwysau i awtistiaeth.

Gellid bod angen ymgynghoriad cyhoeddus os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i ddatblygu strategaeth genedlaethol arfaethedig newydd ar Awtistiaeth. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae'r Tîm Datblygu Cenedlaethol wedi cynhyrchu amrywiaeth eang o ymgynghoriadau ac arolygon cyhoeddus a gellid defnyddio gwybodaeth yn deilio ohonynt i fod yn sail i gyfeiriad y dyfodol ac osgoi dyblygu gwaith. Mae'n bwysig y caiff canllawiau o'r fath eu monitro'n rheolaidd a'u hadolygu gyda dyddiad adnewyddu awgrymedig o 4 i 5 flwyddyn.

Cwestiynau: Llwybrau i Ddiagnosis

g)   Beth yw eich barn ar ba mor hawdd yw hi i gael mynediad at asesiad diagnostig ble rydych chi'n byw?

h)   Pa heriau allweddol o ran sut mae'r broses ddiagnostig yn gweithio yr hoffech chi i'r ddeddfwriaeth fynd i'r afael â nhw?

i)     A ydych yn credu y dylai fod yn ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru gyhoeddi gwybodaeth am y llwybr i ddiagnosis i blant ac oedolion sy'n byw yn eu hardaloedd?

Caiff mynediad i asesiadau diagnostig ar gyfer plant a phobl ifanc ei ddarparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan drwy'r Gwasanaeth Integredig ar gyfer Plant gydag Anghenion Ychwanegol (ISCAN) i'r gwasanaeth niwro-ddatblygiadol. Dywed teuluoedd wrthym fod y system hon yn gymharol rwydd cael mynediad iddi gyda chefnogaeth a gwybodaeth ar gael gan y canolfannau plant.

Mae'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig newydd yn ddatblygiad cadarnhaol fydd yn darparu asesiadau diagnostig ar gyfer pobl heb anhawster dysgu neu iechyd meddwl.

Yn nhermau heriau allweddol, dywed rhieni, gofalwyr a rhai gweithwyr proffesiynol wrthym nad yw rhai meddygon teulu yn gwybod pwy neu sut i atgyfeirio ar gyfer asesiadau diagnostig. Hefyd, mae pobl yn y system cyfiawnder troseddol a'r stadau diogel yn ei chael yn anodd cael mynediad i asesiadau diagnostig.

Her arall i gael ei thrin yw sicrhau y cyhoeddir gwybodaeth glir ar lwybrau i ddiagnosis.

Cwestiynau: darparu gwasanaethau

j)     Beth yw eich barn ar ddigonolrwydd y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd i ddiwallu anghenion pobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth yng Nghymru?

k)    Bydd y ddeddfwriaeth yr wyf yn ei chynnig yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau statudol a fyddai’n rhoi dyletswyddau ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ynghylch sut y dylent ddarparu gwasanaethau i blant ac oedolion awtistig a'u teuluoedd.

A ydych yn cytuno y dylai'r ddeddfwriaeth hon ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi canllawiau statudol?
Os felly, hoffwn glywed eich barn ar ba ofynion y dylai'r canllawiau hyn eu rhoi ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol.

Mae'r rhestr ganlynol yn nodi'r meysydd yr wyf yn credu y dylid eu cynnwys yn y canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Gofynnaf ichi nodi:

-        p'un a ydych yn cytuno y dylid cynnwys y rhain; a

-        pha feysydd eraill y dylid eu cynnwys.

                     i.        Darparu gwasanaethau perthnasol er mwyn rhoi diagnosis o gyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth mewn plant ac oedolion.

                   ii.        Y ffaith na ellir gwrthod asesu cymhwysedd plant ac oedolion ar gyfer gwasanaethau perthnasol ar sail galluedd deallusol.

                  iii.        Cynllunio mewn perthynas â darparu gwasanaethau perthnasol i bobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth wrth iddynt symud o fod yn blant i fod yn oedolion.

                  iv.        Gwaith cynllunio arall mewn perthynas â darparu gwasanaethau perthnasol i blant ac oedolion.

                    v.        Trefniadau lleol ar gyfer arweinyddiaeth mewn perthynas â darparu gwasanaethau perthnasol i blant ac oedolion sydd â chyflyrau o'r fath.

l)     A ydych yn credu y dylid gosod gofyniad ar fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i sefydlu a chynnal arferion casglu data o ran niferoedd ac anghenion y plant ac oedolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth fel y gall ardaloedd lleol gynllunio gwasanaethau yn unol â hynny?

m)  A oes gennych farn ar sut y gellir casglu data yn fwyaf effeithiol ar niferoedd ac anghenion y plant ac oedolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth mewn gwahanol ardaloedd byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol yng Nghymru?

Os daw deddfwriaeth i rym, byddem yn disgwyl y bydd canllawiau perthnasol i gyd-fynd â hynny. Yn sicr, dylai'r materion yn y rhestr l i v gael eu hystyried ar gyfer eu cynnwys. Fodd bynnag, gall yn rhwydd fod meysydd eraill allweddol eraill a fyddai'n manteisio o gael canllawiau a byddem yn awgrymu cynnal proses gynhwysol yn cynnwys rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru i sicrhau cadernid y broses o baratoi canllawiau.Mae ein profiad ni yn awgrymu fod casglu data am nifer ac anghenion plant ac oedolion gyda chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth rywfaint yn broblemus gan mai ychydig o gysondeb sydd ac mae'n aml broblemau'n ymwneud â systemau. Credwn y bydd y sefyllfa yn gwella gyda dyfodiad y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig newydd fydd yn gweithio ar draws ffiniau ac yn casglu data cyson ar draws Cymru.

Cwestiynau: Hyfforddiant

n)   A oes gennych farn ar gwmpas ac effeithiolrwydd hyfforddiant yng Nghymru ar hyn o bryd ar gyfer staff allweddol sy'n gweithio gyda phobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth?

o)   A ydych yn credu y dylai deddfwriaeth nodi'r canlyniadau y dylid eu cyflawni drwy hyfforddiant, gan ddarparu mwy o hyblygrwydd o ran cynnig hyfforddiant o'r fath? Dull amgen fyddai nodi mewn deddfwriaeth y dylai staff allweddol sy'n gweithio gyda phobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth gael hyfforddiant ar awtistiaeth.

Credwn mai gwir lwyddiant y dull gweithredu presennol yw datblygu a gweithredu hyfforddiant. Mae'r Tîm Datblygu Cenedlaethol wedi ymestyn nifer o becynnau ledled Cymru gyda chanlyniadau cadarnhaol. Enghraifft o hyn yw datblygu cyfres o offerynnau Dysgu gydag Awtistiaeth sydd yng nghamau cynnar ei weithrediad ac a gaiff ei ymestyn ar draws gosodiadau blynyddoedd cynnar, cynradd, uwchradd ac addysg bellach yng Nghymru.

Yn lleol, dros flynyddoedd dilynol rydym wedi darparu amrywiaeth o raglenni hyfforddiant awtistiaeth yn amrywio o ymwybyddiaeth sylfaenol i gefnogaeth arbenigol. Mae'r hyfforddiant penodol yr ydym wedi ei chyflwyno i'r stadau diogel yn Sir Fynwy yn enghraifft dda o hyn.

Er y teimlwn y dylai unrhyw ddeddfwriaeth roi sylw i bwysigrwydd hyfforddiant, credwn y byddai unrhyw fanylion pellach neu orfodaeth yn dileu'r hyblygrwydd a fu mor bwysig wrth ddatblygu hyfforddiant i ymateb i anghenion plant ac oedolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth dros y blynyddoedd. Gallai unrhyw fanylion penodol ar hyfforddiant fod yn fwy priodol mewn canllawiau.

Cwestiynau: mewn swydd

p)   A oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer camau ychwanegol y gellid eu cymryd drwy ddeddfwriaeth i wella cyfraddau cyflogaeth pobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth (gan gofio nad oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i wneud newidiadau i gyfraith cyflogaeth)?

Gwyddom fod cwmpas yn parhau i wella cyfraddau cyflogaeth pobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth.

Fodd bynnag, ni chredwn y daw hyn o fewn cylch gorchwyl deddfwriaeth. Yn hytrach, teimlwn y gellid gwella'r sefyllfa drwy i Lywodraeth Cymru roi amlygrwydd i'r problemau a gaiff pobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth a gweithio gyda llywodraeth genedlaethol, asiantaethau eraill, cyflogwyr a chyrff cenedlaethol i newid systemau, gwella dealltwriaeth, creu cyfleoedd a chyflwyno gwell cefnogaeth cyflogaeth.

Cwestiynau: Y diffiniad o awtistiaeth

q)   A ydych yn credu y dylai diffiniad o anhwylder ar y sbectrwm awtistig:

-        gael ei gynnwys ar wyneb y ddeddfwriaeth (sy'n ei gwneud yn fwy anodd ei newid yn y dyfodol);

-        gael ei gynnwys mewn strategaeth awtistiaeth;

-        gael ei gynnwys yn y canllawiau; neu,

-        beidio â chael ei ddatgan o gwbl?

 

Ar ôl gwrando ar rieni a gofalwyr yn Sir Fynwy, nid oes barn amlwg ar le y dylid cynnwys diffiniad o'r fath. Teimlwn y dylai ffocws trafodaeth fod ar ddarpariaeth cefnogaeth ar gyfer pobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth yn hytrach nag un diffiniad.

Cwestiynau: Canlyniadau Anfwriadol

r)    A allwch nodi unrhyw ganlyniadau anfwriadol posibl a allai ddigwydd o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon? Os felly, pa gamau y gellid eu cymryd i fynd i'r afael â nhw?

Mae pryder y gallai defnyddio deddfwriaeth i gadarnhau strategaeth a gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru greu diwylliant o 'hawl' gyda heriau'n cael eu dilyn drwy'r llysoedd.

Yn ogystal â bod â chanllawiau ategol, mae'n debygol y bydd deddfwriaeth awtistiaeth angen seilwaith i gefnogi ei ddarpariaeth a'r rhai sy'n cyrchu gwasanaethau drwyddo.

Cwestiynau: Costau

s)    A ydych yn credu y byddai'r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn arwain at unrhyw gostau sylweddol, y tu hwnt i'r costau a nodwyd eisoes yn yr ymgynghoriad? Beth fyddai’r ffordd orau o liniaru effaith y costau hyn?

t)     Beth fyddai effaith neu gostau'r canlynol:

             i.        llunio strategaeth awtistiaeth genedlaethol;

           ii.        gosod dyletswyddau ychwanegol ar awdurdodau lleol a chyrff y GIG i weithredu'n unol â chanllawiau;

          iii.        creu a chynnal arferion i hwyluso'r gwaith o gasglu data ar nifer ac anghenion yr oedolion a phlant sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth; a,

          iv.        hyfforddi staff allweddol?

u)   A ydych yn rhagweld unrhyw gostau gweinyddol a rheoleiddiol ychwanegol eraill o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon? Os felly, sut y gellir lliniaru effaith costau o'r fath?

v)    Pa ffactorau y dylid eu mesur wrth lunio'r dadansoddiad cost a budd ar gyfer y ddeddfwriaeth hon os daw'n gyfraith?

Mae'n ddi-os y bydd costau'n deillio o gyflwyno a gweithredu deddfwriaeth.

Mewn blynyddoedd diweddar mae Llywodraeth Cymru wedi darparu adnoddau i gefnogi datblygu gwasanaethau a chefnogaeth ar gyfer pobl gyda chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth a byddai angen i'r lefel yma o gefnogaeth ariannol o leiaf barhau ac efallai gynyddu pe cyflwynid deddfwriaeth.

Cwestiynau: Arbedion

w)   A oes gennych unrhyw farn ar y ffordd orau o nodi a chyfrifo'r arbedion posibl y gellid eu sicrhau drwy'r ddeddfwriaeth hon?

Ar y cam cynnar hwn mae'n anodd dynodi cyfleoedd cyffredinol ar gyfer arbedion. Fodd bynnag, pe byddai deddfwriaeth yn symud ymlaen byddem yn disgwyl cynnal dadansoddiad manylach o gyfleoedd ar gyfer arbedion posibl.

Cwestiynau: Materion Eraill

x)   A ydych yn dymuno gwneud unrhyw sylwadau eraill ar fy nghynigion?

Mae asiantaethau, grwpiau cefnogaeth ac unigolion yn Sir Fynwy wedi gweithio'n galed i sicrhau fod pobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig yn cael budd llawn o'r cyfleoedd y mae'r system bresennol o gefnogaeth yn eu cynnig. Mae hyn wedi rhoi canlyniadau cadarnhaol iawn. Rydym yn ymroddedig i gydweithio i barhau i gefnogi pobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig yn y dyfodol a byddwn yn sicrhau y byddant yn cael budd o fewn unrhyw drefniant yn y dyfodol.